» 
 » 
O deued pob Cristion



Traditional - O deued pob Cristion - текст песни (слова), перевод

  • текст
  • ноты
O deued pob Cristion
 i Fethlem yr awron
 I weled mor dirion yw'n Duw;
 O ddyfnder rhyfeddod,
 fe drefnodd y Duwdod
 Dragwyddol gyfamod i fyw:
 
 Daeth Brenin yr hollfyd
 i oedfa ein hadfyd
 Er symud ein penyd a'n pwn;
 Heb le yn y llety,
 heb aelwyd, heb wely,
 Nadolig fel hynny gadd hwn.
 
 Rhown glod i'r Mab bychan,
 ar liniau Mair wiwlan,
 Daeth Duwdod mewn baban i'n byd:
 Ei ras O derbyniwn,
 ei haeddiant cyhoeddwn
 A throsto ef gweithiwn i gyd.
 
 Tywysog tangnefedd
 wna'n daear o'r diwedd
 Yn aelwyd gyfannedd i fyw;
 Ni fegir cenfigen
 na chynnwrf na chynnen,
 Dan goron bydd diben ein Duw.
 
 Yn frodyr i'n gilydd,
 drigolion y gwledydd,
 Cawn rodio yn hafddydd y nef;
 Ein disgwyl yn Salem
 i ganu yr anthem
 Ddechreuwyd ym Methlem, mae Ef.
 
 Rhown glod i'r Mab bychan,
 ar liniau Mair wiwlan,
 Daeth Duwdod mewn baban i'n byd:
 Ei ras O derbyniwn,
 ei haeddiant cyhoeddwn
 A throsto ef gweithiwn i gyd.   
Другие материалы по этой песне:

https://primanota.net/traditional/o-deued-pob-cristion-lyrics.htm