» 
 » 
Jewin Street ("Dyma Babell Y Cyfarfod")



Anonymous - Jewin Street ("Dyma Babell Y Cyfarfod") - текст песни (слова)

Dyma babell y cyfarfod, 
 Dyma gymod yn y gwaed,
 Dyma noddfa i lofruddion,
 Dyma i gleifion feddyg rhad;
 Dyma fan yn ymyl Duwdod
 I bechadur wneyd ei nyth,
 A chyfiawnder pur y nefoedd,
 Yn siriol wenu arno byth.
 Pechadur aflan yw fy enw,
 O ba rai y penna'n fyw;
 Rhyfeddaf fyth, fe drefnwyd pabell
 Im gael yn dawel gwrdd â Duw:
 Yno y mae yn llond ei gyfraith
 I'r troseddwr yn rhoi gwledd;
 Duw a dyn yn gweiddi 'Digon!'
 Yn yr Iesu, 'r aberth hedd.
 Myfi a anturiaf yno yn eon,
 Teyrnwialen aur sydd yn ei law,
 A hon a'i senter at bechadur,
 Llwyr dderbyniad pawb a ddaw;
 Af ymlaen dan weiddi "Maddau!"
 Af a syrthiaf wrth ei draed,
 Am faddeuant, am fy ngolchi,
 Am fy nghannu yn ei waed.
 O! am ddyfod o'r anialwch
 I fyny fel colofnau mwg
 Yn uniongyrchol at ei orsedd,
 Mae yno'n eistedd heb ei wg:
 Amen diddechrau a diddiwedd,
 Tyst ffyddlon yw, a'i air yn un;
 Amlygu y mae ogoniant Trindod
 Yn achubiaeth damniol ddyn.   
Другие материалы по этой песне:

https://primanota.net/anonymous/jewin-street-dyma-babell-y-cyfarfod-lyrics.htm